Mae ABC yr Opera yn adrodd straeon gwefreiddiol i blant am gyfansoddwyr opera o'r 500 mlynedd diwethaf hyd at heddiw, trwy gwrdd â'r cyfansoddwyr eu hunain a chlywed eu straeon fel na chawsant eu hadrodd erioed o'r blaen.
Darganfyddwch stori wefreiddiol opera gyda Jac, Megan a'r Cist sy'n teithio drwy amser.
Mae taith ysgol yn mynd â Jac a Megan i'r Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain, lle maen nhw'n cwrdd unwaith eto â'u hen ffrind Cist. Wrth ei ryddhau o arddangosyn, cânt eu chwipio yn ôl i'r cyfnod Clasurol (tua 1730-1820) a dinasoedd Salzburg a Paris. Yma maen nhw'n dysgu popeth am y roes bwysig hon yn hanes cerdd gan y crewyr eu hunain.
Wrth gario allan eu tasg o fynd â cherddoriaeth a straeon Wolfgang Wyntog (Mozart, yr athrylith dlawd), Tortellini Rossini (Brenin y Gegin) a Beethoven, oriog a gwydn, yn ôl i'r presennol, yn fuan iawn mae Jac a Megan yn cael eu dal i fyny yn nychweliad Brenhines y Nos, creadigaeth fwyaf drwg Mozart. Pwy fydd yn ennill y dydd ac a all Jac a Megan gadw eu pennau oddi ar y bloc?
"synopsis" may belong to another edition of this title.
Mark Llewelyn Evans yw sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol ABC of Opera Productions, sy'n teithio ledled y DU gan gyflwyno plant i straeon a gogoniannau'r opera trwy gerddoriaeth ac adrodd straeon. Mae Mark yn ganwr opera proffesiynol sydd wedi canu prif rolau bariton i lawer o'r tai opera.
Mae Karl Davies yn ddarlunydd llyfrau plant newydd a chyffrous, ac mae ei waith yn dod â chast a chymeriadau ABC yr Opera yn fyw. Mae Karl yn arlunydd tirlun ac mae'n byw ym Mhontypridd; ef yw darlunydd The B Team a Walking with Bamps, llyfrau plant cyntaf Roy Noble, hefyd.
"About this title" may belong to another edition of this title.
Seller: WeBuyBooks, Rossendale, LANCS, United Kingdom
paperback. Condition: Like New. Most items will be dispatched the same or the next working day. An apparently unread copy in perfect condition. Dust cover is intact with no nicks or tears. Spine has no signs of creasing. Pages are clean and not marred by notes or folds of any kind. Seller Inventory # rev7276706525
Quantity: 1 available
Seller: Revaluation Books, Exeter, United Kingdom
Paperback. Condition: Brand New. 64 pages. Welsh language. 9.72x7.87x0.55 inches. In Stock. Seller Inventory # __1913634256
Quantity: 2 available