Items related to Nan A'r Sioe Fawr (Cyfres Roli Poli)

Nan A'r Sioe Fawr (Cyfres Roli Poli) - Softcover

Ifan Jones Evans

 
9781785621093: Nan A'r Sioe Fawr (Cyfres Roli Poli)

Synopsis

Nofel i blant gan y cyflwynydd radio a theledu am anturiaethau Nan, yr ast ddefaid ar fferm yng ngorllewin Cymru. A novel for children about the antics of a sheepdog by a Welsh radio and tv presenter. A novel for children about the antics of a sheepdog by a popular Welsh radio and tv presenter.

"synopsis" may belong to another edition of this title.

Review

Mae pawb yn gwybod bod perthynas ffermwr 'i hoff gi defaid yn un werthfawr, ac yn sicr mae Nan a Defi yn ffrindiau pennaf. Yma, cawn hanes y ffermwr, ei gi defaid Nan, a Huw yr hwrdd wrth iddynt baratoi at Sioe Fawr Llanelwedd. Mae Ifan Jones Evans, y cyflwynydd teledu a radio hefyd yn ffermwr brwd ac mae hynny i'w weld yn y gofal a'r wybodaeth sydd ganddo er mwyn creu ei lyfr cyntaf i blant, Nel a'r Sioe Fawr. Ast fach bwyllog ac ufudd sy'n wastad yn gwrando ar ei meistr yw Nan. Mae hi'n deall i'r dim faint mor bwysig yw ei braidd i Defi, yn enwedig ei ddefaid penfrith enwog. Mae Huw yr hwrdd, sydd wedi ei fagu fel oen swci, yn ffefryn yn wir, ond wrth i'r Sioe Fawr nesau, mae popeth yn mynd o chwith ac mae Nan yn ysu am gael mynd at wraidd pethau er mwyn codi calon Defi druan. Ond ydyn nhw am gyrraedd y sioe mewn pryd neu a yw breuddwydion ac uchelgeision pawb ar ben? Mae'r llyfr hwn yn anrheg berffaith i feibion a merched sydd wedi eu magu ar y fferm ac sydd gyda Nan fach eu hunain ar yr aelwyd, ond hefyd yn gipolwg gwych i blentyn ar fywyd ar y fferm a'r paratoadau mawr at y Sioe Fawr, digwyddiad sydd mor bwysig ym mywyd amaethyddol Cymru. Llinos Griffin Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

"About this title" may belong to another edition of this title.