Review:
Mae unigrwydd yn beth anodd yn enwedig ar fuarth yr ysgol. Does dim yn waeth na bod yn unig, yn gwylio pawb yn mwynhau eu hunain, pawb yn chwerthin a chael hwyl a thithau ar ben dy hun bach yn teimlo'n bell oddi wrth bawb. Yn y llyfr lliwgar hwn, mae Twm yn dod o hyd i ffrind newydd, ond dydi hwn ddim yn ffrind cyffredin. Mae Lucy a Rhodri Owen, y cyflwynwyr teledu, wedi troi eu llaw at sgwennu stori fydr ac odl hyfryd i godi arian at Gronfa Arch Noa, ac mae hi'n un heb ei hail. Mae Twm druan yn fachgen swil a nerfus nes iddo gwrdd Bw-a-Bog yn y llwyni ac mae'n llenwi ei fyd lliw. Mae anturiaethau'r ddau yn gwneud i ni wenu o glust i glust. Does dim yn well chwaith na throi tudalennau hynod o lachar wrth blymio i fyd gemau gwallgo'r bwgan, ac ynghanol y deiliach a'r direidi, mae hyder Twm yn codi. Beth am i ni i gyd fod yn ffeind wrth rywun, fel Bw-a-Bog? Mae'r stori hon yn un a ddylai gael ei mwynhau gan bob plentyn bach. Wedi'r cwbl, tydan ni i gyd yn unig weithiau, ac mae'n ffordd hyfryd o gyfrannu at achos da. Llinos Griffin Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
About the Author:
Lucy Owen is one of the most experienced broadcasters in Wales. She presents BBC One Wales' flagship news programme Wales Today, and BBC One Wales' primetime consumer programme XRay, alongside her husband Rhodri Owen. Lucy is an Ambassador for Noah's Ark Appeal and was one of the celebrities chosen to appear on the cariad@iaith:love4language programme on S4C in May 2012.
"About this title" may belong to another edition of this title.