Items related to O! Tyn Y Gorchudd: Hunangofiant Rebecca Jones

O! Tyn Y Gorchudd: Hunangofiant Rebecca Jones - Softcover

 
9781843231684: O! Tyn Y Gorchudd: Hunangofiant Rebecca Jones
View all copies of this ISBN edition:
 
 
Cyfrol arobryn Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002, sef hunangofiant dychmygol hen fodryb yr awdures a fu farw yn ei phlentyndod, yn cynnwys portread byw a chynnes o gymdeithas wledig Gymraeg yn Sir Feirionnydd yn ystod yr 20fed ganrif. 10 ffotograff du-a-gwyn. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Awst 2002. The prize-winning entry in the 2002 St David's Eisteddfod Prose Medal competition, the imaginary autobiography of the author's great-aunt who died in childhood, comprising a warm and vivid portrait of Welsh rural society in Meirionethshire during the 20th century. 10 black-and-white photographs. First published in August 2002.

"synopsis" may belong to another edition of this title.

Review:
Gofynnwyd am hunangofiant yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith 2002, ond ceir yma glasur o gofiant i deulu cyfan, oherwydd er mai Rebecca Jones sydd yn adrodd ei hanes, cawn yn ogystal hanes ei theulu cyfan -- hanes teulu amaethyddol, o gefn-gwlad Sir Feirionnydd, sef teulu Tynybraich, Cwm Maesglasau. Dyma gyfrol fach sy'n hawdd i'w darllen ond eto sy'n em 'sy'n cyffwrdd dyn at ddagrau', ys dywedodd Hywel Teifi Edwards. Ceir yma yn wir y llon a'r lleddf, hiwmor iach a thristwch ingol. Ni allwn ond chwerthin yn aml ar droeon chwithig rhai o'r cymeriadau (megis y gyrrwr bws yn dweud wrth y dyn dall 'You need the green bus, mate'), ond yn fwy na dim mae pleser y gyfrol ym mhortreadau byw yr awdures; os oedd Lewis, un o'r brodyr, yn arlunydd da a'i baent, yna mae Angharad Price hithau wedi etifeddu'r un anian ac yn arlunydd gwych a'i geiriau. Llwydda i greu portreadau mor fyw fel eu bod yn dawnsio o flaen ein llygaid, yn enwedig felly yn fy marn i yn y portread o'r brawd dall, William -- o'r manylder am lyfu label, ei natur gysetlyd a'i ysfa am annibyniaeth i'w ddirywiad poenus yn ei henaint. Ac yn y portreadau hyn fe'n gogleisir yn fwy na dim gan y cyfuniad gwefreiddiol o'r hyn y gwyddom sy'n ffaith a'r hyn a awgrymir sy'n ffrwyth dychymyg a phrofiad Angharad Price. Mae'r hanes a geir yma am deulu Dynybraich yn amlwg yn wir, a cheir ambell ffotograff ohonynt i brofi hynny; afraid dweud fod y gyfrol hon yn albwm geiriau anhygoel i'r teulu hwnnw. Chwaer taid yr awdures oedd Rebecca Jones, yr adroddwraig, ac wrth nodi aelodau cenedlaethau newydd y teulu, cydnebir bodolaeth Angharad Price ei hun yn y llinach deulu: 'a hwythau bellach yn nain a thaid i blant Wyn, sef Aled a Catrin, a phlant Mair, ac Emyr ei gwr, sef Irfon, Iolo ac Angharad'. Ond wedi'i weu drwy'r ffeithiol, mae elfen amlwg o ffuglen --yn bennaf oherwydd, mewn gwirionedd, bu farw Rebecca yn un ar ddeg oed, ac mae'r gyfrol hon yn 'deyrnged i'r bywyd y gallai fod wedi ei gael'. Ond mae'r cyfuno ffaith a ffuglen yn hynod ogleisiol -- faint ohono yn wir a basiwyd i lawr drwy'r cenedlaethau a faint ohono sy'n gnawd o ddychymyg Angharad? Meddyliaf yn fwy na dim am hen-nain a hen-daid yr awdures: mae yma bortreadau mor llawn ohonynt, o Evan 'yn storiwr da' i'w wraig a'i ffydd gref yn Nuw. Eto, cynildeb y dweud sy'n taro i'r byw, yn enwedig y dioddefaint nas ymhelaethir arno -- colli merch yn bythefnos oed, colli mab yn bump oed a chael tri mab dall, ac (er na ddigwydd hynny yng nghorff yr hunangofiant), o golli Rebecca a hithau'n un ar ddeg oed. Cwmpesir canrif gyfan bron a bod yn nhudalennau'r gyfrol, a cheir yma hanes newidiadau mewn cymdeithas gyfan yn ogystal ag yn y teulu penodol dan sylw. Teimlaf efallai fod y bennod olaf braidd yn rhy uniongyrchol ei neges, ac mai pennod gyntaf cofiant y byd sydd ohoni ydyw, yn hytrach na phennod olaf hanes cenhedlaeth taid yr awdures. Yn sicr, rhaid annog yr awdures i fynd ati i ysgrifennu rhagor; mae ei hiaith mor goeth, mor Gymreig, mor fyw, mae'n bleser pur i'w ddarllen -- ac ni ellir ond dotio dro ar ol tro at yr eirfa, yr ymadroddion a'r disgrifiadau, e.e. 'Cychwynnem yn oriau man y bore, a'r diwrnod newydd yn troi'n las, yn binc, yn felyn, yn wyn, fel petai clais y nos yn gwella.' Mae hon yn gyfrol sydd wir yn werth ei darllen, a'ch colled chi fyddai peidio gwneud hynny. Gwenllian Dafydd Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
About the Author:
Angharad Price from Bethel, Caernarfon now lives in Cardiff and works in the research department at Cardiff University. Her first novel, Tania'r tacsi was published in 1999 and O tyn y gorchudd won the prestigious literary medal in the National Eisteddfod at St. Davids in 2002.

"About this title" may belong to another edition of this title.

  • PublisherGomer Press
  • Publication date2003
  • ISBN 10 1843231689
  • ISBN 13 9781843231684
  • BindingPaperback
  • Number of pages152
  • Rating

Shipping: £ 10
From United Kingdom to U.S.A.

Destination, rates & speeds

Add to Basket

Top Search Results from the AbeBooks Marketplace

Stock Image

Angharad Price
Published by Gomer Press (2002)
ISBN 10: 1843231689 ISBN 13: 9781843231684
New Paperback Quantity: 1
Seller:
Revaluation Books
(Exeter, United Kingdom)

Book Description Paperback. Condition: Brand New. In Stock. Seller Inventory # __1843231689

More information about this seller | Contact seller

Buy New
£ 8.99
Convert currency

Add to Basket

Shipping: £ 10
From United Kingdom to U.S.A.
Destination, rates & speeds