Gareth W. Williams Eryr, Yr

ISBN 13: 9781785622465

9781785622465: Eryr, Yr
View all copies of this ISBN edition:
 
 

Y mae teulu Gruffydd ap Brân yn rheoli tref Y Berig – mae popeth yn gorfod bod yn Gymraeg, gyda'r iaith yn cael ei harddel yn falch a gwerthoedd Cymreig ar y brig. Pwy na fyddai'n dymuno byw yno? Ond o dan wyneb yr iwtopia genedlaetholgar berffaith, mae is-fyd tywyll yn llechu. Yn y nofel hon mae Branwen yn dychwelyd i'r dref Berig ac i fywyd Inspector Goss o'r cysgodion.

Gruffudd ap Brân's family run the town of Y Berig where everything has to be in Welsh, and the language is held in high esteem. Who wouldn't want to live there? However beneath the surface of this perfect nationalistic utopia, a dark underworld is concealed. In this novel Branwen returns from the shadows to Berig and to Inspector Goss' life.

"synopsis" may belong to another edition of this title.

Review:

Nid nofel yn ystyr draddodiadol y gair ydi Yr Eryr. Or cychwyn cyntaf maen atgoffa rhywun o gyfresi teledu swmpus dros ben llestri sydd yn drewi o arian cyfresi fel Dynasty a Dallas slawer dydd ac ar raddfa llai, Y Teulu ar S4C yn fwy diweddar. Maer cynhwysion i gyd yma; miliwnyddion, biliwnyddion, hofrenyddion, cyrff mewn concrid, tai crand, rhai pobl gyffredin-a-ffyddlon, unigolion-honco-bost, rhyw, plismyn, y gwasanaethau cudd, Gwyddelod-fu-unwaith-yn-beryglus, dynes hardd-ac-abl-yn-ei-hoed-ai hamser, cwlt crefyddol ac un plismon wedi ymddeol syn achub y Berig, sef y nirfana Gymreig ger y lli, yn l y broliant. Maer broliant hefyd yn dweud nad oes angen i chi fod wedi darllen helyntion blaenorol y cyn-Arolygydd Arthur Goss yn Y Teyrn ac Y Llinach er mwyn mwynhaur nofel yma. Ac mae hyn, i raddau helaeth, yn wir. Bygythiad terfysgol ac ariannol ir Berig ydi craidd y stori. Mae Arthur Goss bellach wedi ymddeol o fod yn uwch swyddog efor heddlu (gyda llaw, fedra i ddim diodder term cyn-insbector, ond mater bach ydi hynny). Maen byw mewn carafn ac yn hyn o beth yn ein hatgoffa or arolygydd yn y gyfres Y Gwyll. Columbo Cymreig syn dioddef o anhwylder ar ei frest ydi Arthur. Dyn yn unig a wyr sut mae wedi llwyddo i ddenu a chadw Branwen Brn gyfoethog! Beth bynnag, maen torri ei gwys ei hun wrth achub y Berig ai phobl, diolch i gefnogaeth ymarferol ei gyn-gydweithwyr yn yr heddlu ar Special Ops syn parhau iw addoli ai helpu i raddau anghredadwy. Maer nofel yn hawdd iw darllen ond yn gwbl arwynebol ac nid beirniadaeth yw hynny. Mae hyn yn angenrheidiol mewn nofel sydd yn ffantasi llwyr, yn union fel yn y cyfresi teledu. Eto i gyd, mi fuaswn i wedi mwynhau treiddio ir berthynas ffrwythlon ddatblygodd mor sydyn rhwng Branwen ai pherthnasau Gwyddelig, a deall yn llawer gwell beth gebyst ddenodd y ffasiwn ddynes at Goss! Nofel i ymlacio wrth ei darllen ydi Yr Eryr. Derbyniwch, da chi, bod y stori yn digwydd ac yn datblygu mewn cymuned nad ywn bod, i bobl or fath nad ydych chi erioed wedi dod ar eu traws, mewn cyfnod pan maer Gymraeg ar diwylliant Cymreig yn llwyddiannus, yn rhyngwladol ddeniadol ac yn denu buddsoddwyr o Merica bell. Derbyniwch y cyfan ar lefel arwynebol a mwynhewch! Bethan Jones Parry Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru

"About this title" may belong to another edition of this title.

Top Search Results from the AbeBooks Marketplace

Stock Image

1.

Gareth W. Williams
Published by Gwasg Gomer (2018)
ISBN 10: 1785622463 ISBN 13: 9781785622465
New Paperback Quantity Available: 1
Seller:
Revaluation Books
(Exeter, United Kingdom)

Book Description Gwasg Gomer, 2018. Paperback. Condition: Brand New. 208 pages. In Stock. Seller Inventory # zk1785622463

More information about this seller | Contact this seller

Buy New
15.58
Convert currency

Add to Basket

Shipping: 35
From United Kingdom to U.S.A.
Destination, rates & speeds